Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Neuadd Ysgol Gynradd Gelli Aur, Penfro ar brynhawn Mawrth, Mawrth 4ydd. Y beirniaid oedd Gwenda John, Blaenffos (Cerdd) a Mair Garnon James, Llandudoch (Llefaru) a'r gyfeilyddes oedd Rosemary Richards, Penfro. Yn arwain oedd Eiry Miles, Gelli Aur a'r ysgrifenyddes oedd Emma Hughes, Dinbych y Pysgod. Llongyfarchiadau i'r buddugwyr a phob hwyl yn yr Eisteddfod Sir a gynhelir yn Ysgol Uwchradd Abergwaun ar Ddydd Sadwrn Mawrth 15fed.
Diolch i Catrin Braithwaite am werthu rhaglenni wrth y drws, Anne Yeldham am werthu'r raffl ac i Ysgol Gelli Aur am fenthyg y neuadd ac am ei haddurno.
Dyma restr y buddugwyr:
Llefaru dan 8 oed i ddysgwyr - 1. Harri Furnival-Doran (Ysgol Cosheston); 2. Caitlin Shanahan (Ysgol Cosheston); 3. Iobel Rees (Ysgol Dinbych y Pysgod).
Unawd dan 8 oed - 1. Kate Williams (Ysgol Saundersfoot); 2. Gwen Davies (Ysgol Gelli Aur); 3. Lauren Williams (Ysgol Saundersfoot).
Llefaru dan 8 oed - 1. Shannon Cole (Ysgol Gelli Aur); 2. Lara Thomas (Ysgol Dinbych y Pysgod); 3. Rhodri Maiden (Ysgol Gelli Aur).
Unawd 8-10 oed - 1. Taryn Williams (Ysgol Saundersfoot); 2. Lily Whitehurst (Ysgol Saundersfoot); 3. Ben Thomas (Ysgol Gelli Aur).
Llefaru 8-10 oed i ddysgwyr - 1. Charlie Evans (Ysgol Stacpol); 2. Mark Jones (Ysgol Stacpol); 3. Lily Tyler-Henley (Ysgol Netherwood).
Unawd 10-12 oed - 1. Grace Scourfield (Ysgol Netherwood); 2. Jasmine Langdon (Ysgol Saundersfoot); 3. Rhiannon Williams (Ysgol Gelli Aur).
Llefaru 8-10 oed - 1. Sadie Griffiths (Ysgol Geglli Aur); 2. Sarah Hay (Ysgol Gelli Aur).
Llefaru 10-12 oed i ddysgwyr - 1. Molly Furnival-Doran (Ysgol Cosheston); 2. Sarah Blackmore (Ysgol Santes Fair); 3. Zoe Thorpe (Ysgol Gelli Aur).
Llefaru 10-12 oed - 1. Beaux Griffiths (Ysgol Gelli Aur); 2. Cerith Messenger (Ysgol Dinbych y Pysgod); 3. Rhiannon Williams (Ysgol Gelli Aur).
Grwp Llefaru dan 12 oed - 1. Ysgol Gelli Aur.
Parti Unsain dan 12 oed (Hyd at 50 o blant) - 1. Ysgol Cosheston.
Grwp Llefaru dan 12 oed i Ddysgwyr - 1. Ysgol Cosheston; 2. Ysgol Saundersfoot; 3. Ysgol Glannau.




