BYDD hynt a helynt athrawon newydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn destun cyfres newydd ar S4C.
Bydd Athrawon (cynhyrchiad Carlam ar gyfer S4C) yn dilyn wyth athro newydd gymhwyso mewn pump ysgol ar draws Cymru dros gyfnod o flwyddyn.
Mae’r gyfres chwe phennod awr o hyd yn cynnig mewnwelediad i’r ystafell ddosbarth wrth i’r newydd-ddyfodiaid ddygymod â’u dyletswyddau.
Drwy gamerâu pry-ar-y-wal, cawn ddarlun gonest o’r sefyllfa sy’n wynebu ysgolion heddiw.
Caiff y gyfres, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, ei darlledu ym mis Medi, i gyd-fynd â dechrau’r flwyddyn ysgol newydd.
Cafodd y comisiwn ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.
Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C: “Mae Athrawon yn gyfres bwysig sydd yn taflu goleuni ar y gwaith hanfodol mae athrawon yn ei wneud wrth fentora, addysgu a siapio cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae’n gyfres sy’n edrych tu hwnt i benawdau diweddar am yr heriau o recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru.
“Mae’r sector addysg yn allweddol wrth i ni sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru a’r Gymraeg ac mae S4C yn ddiolchgar iawn i’r ysgolion am y cydweithio ar y gyfres hon.
“Mae’n gyfres amserol sy’n cynnig mewnwelediad ffres i’r byd addysg drwy gymeriadau lliwgar, hiwmor, empathi a gonestrwydd.”
Bydd mwy o fanylion am yr ysgolion a’r athrawon sy’n cymryd rhan yn y gyfres yn ddiweddarach.



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.